Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:09, 4 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones (1781-1825), neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol, Mab ydoedd i John Hughes a Catrin Griffith. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Cafodd beth addysg yn ysgol ddyddiol breifat John Beywater yn Llwyn-y-gwalch ac wedyn yn ysgol Dafydd Ddu Eryri a gynhelid yn Efail Dolydd. Dysgodd Hebraeg, Groeg a Lladin wedi hynny. Credir iddo ddechrau barddoni pan oedd tua 29 oed ym 1810. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol Cell Callestr.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.438; Hugh Jones, Gwyndaf Ieuanc (Cymru, Cyf.34 (1908)), tt.9-11.