Pont Cerrig-y-rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:50, 27 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Cerrig-y-rhyd yn croesi Afon Gwyrfai ac felly yn croesi o blwyf Llanwnda yn Uwchgwyrfai i blwyf Betws Garmon yn Is-gwyrfai, a hynny nid nepell o Plas-y-nant. Mae trac yn mynd drosti sydd yn cysylltu ffermydd Pen-y-gaer a Chwm Bychan a oedd arfer bod ym mhlwyf Llanwnda efo'r briffordd o Gaernarfon i Feddgelert. Nid oes sicrwydd pryd y codwyd y bont ond mae map cyntaf yr Arolwg Ordnans, 1888 yn ei dangos fel mae Map Degwm plwyf Llanwnda (1843). Mae'n ddiddorol sylwi nad yw Map Degwm plwyf Betws Garmon yn dangos y bont, er bod y map wedi ei wneud tua'r un flwyddyn, ac mae'r enw yn cynnwys enw fferm Cerrig-y-rhyd sydd ym mhlwyf Betws Garmon. Tybed a ellir casglu o hyn fod y bont ond yn bwysig i drigolion y darn diarffordd o blwyf Llanwnda yng Nghwm Bychan ar lethrau Mynydd Mawr.