Ffrwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:58, 12 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffrwd, Ffrwd Ysgyfarnog neu Groeslon Ffrwd, yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ychydig oddi ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel yn croesi'r lôn bost. Ar hyd y ffordd o'r mynydd i'r môr, fe gludid calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrid defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid y ffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau, felly, mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n debyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, Ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn Betws Gwernrhiw gau o bosibl.[1]

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ym 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Roedd yr efail wedi ei sefydlu ymhell cyn hynny: cafodd Elizabeth, merch Daniel Thomas, gof, Ffrwd Ysgyfarnog a Catherine ei wraig, ei bedyddio ym 1775. Bu farw Daniel Thomas, y gof a'r tafarnwr, y flwyddyn ganlynol, ond ym 1777 ceir sôn am un William Jones, gof, o Ffrwd Ysgyfarnog.[2]

Cynhelid ysgol ddyddiol yn y Ffrwd rhwng 1787 a 1789 gan David Wilson, gŵr a ddaeth yn wreidddiol o Garno, Sir Drefaldwyn. Ymhlith y rhai a gafodd addysg ganddo yn ystod y cyfnod byr y bu yno oedd John Parry (Y Parch. John Parry, Caer yn ddiweddarach), a fagwyd yn y gymdogaeth.

Mae un o borthdai Parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystad Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.

Yma hefyd cychwynnir hen lôn gul sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Cyfeiriadau

  1. W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), tt.31, 33
  2. Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1775-7