Hugh Tudwal Davies (Tudwal)
Ganed Hugh Tudwal Davies (1847-1915) ym Mynachdy Gwyn, ffermdy yn mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Roedd yn nai i Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon.
Symudodd y teulu o Uwchgwyrfai i fferm Yr Orsedd Fawr, Llangybi pan oedd tua 18 oed, ac o 1872 ymlaen bu'n amaethu ym Mrynllaeth, Llŷn. Priododd ferch y Capten John Hughes, Gellidara, ac yno y bu farw fis Ebrill 1915.
Roedd yn fardd medrus, gan ennill gwobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Pwllheli (1875), Caernarfon (1880) a Chaernarfon (1895).[1] Roedd hefyd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Gadeiriol Eryri, 1879, a gynhaliwyd ym Mhen-y-groes. Ar yr achlysur honno, enillodd Tudwal gyda chanmoliaeth. Derbyniwyd pump o gywyddau ar 'Unigedd;' gwobr, £2.2,0c a bathodyn. Tudwal, meddai'r beirniad, oedd y gorau o ddigon.[2]