Ystad Bodychen
Roedd Ystad Bodychen yn un o’r ystadau cynnar i gael ei ffurfio gan foneddigion Uwchgwyrfai wrth i’r system Gafael a Gwely, hen drefn dal tir dan y Tywysogion, ddiflannu yn ystod y 14g a’r 15g. Credir bod cyndadau teulu Ellis, Bodychen, disgynyddion Hwfa ap Cynddelw, wedi bod yn dal Bodychen ers y Canol Oesoedd. Prif ganolfan yr ystad oedd Bodychen yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref presennol Nasareth.
1646
Serch eu hachau, roedd y teulu ymysg ail haen boneddigion y cwmwd, ac yn dibynnu ar ystad gymharol fechan, er eu bod (mae’n ymddangos) yn weddol gefnog, a barnu oddi wrth ewyllys y cynharaf o’r teulu i adael ewyllys, sef David ap John ap William.[1] Mae’r ewyllys honno’n rhestru tiroedd David ap John ap William. Pan wnaed ei ewyllys ar ddechrau [? - dyddiad ar goll], fe ymddengys mai di-briod (neu’n ŵr gweddw heb blant) ydoedd. Gadawodd y rhan fwyaf o’i dir i’w nai, Richard Ellis.
Isod, rhestrir y tiroedd a nodir yn ei ewyllys. Mae’n bur debyg mai dyma'r cyfan oedd ganddo. Sylwer bod y dull o sillafu enwau'r ffermydd wedi ei foderneiddio. Hefyd, dylid nodi bod “tyddyn” y pryd hynny’n golygu rhywbeth arall, yn hytrach na fferm fechan neu “smallholding”, sef fferm neu uned unigol o dir. Yn aml, o’r 17g ymlaen, gollyngwyd y gair Tyddyn os oedd ail ran yr enw’n sefyll ar ei ben ei hun, gan gadw geiriau fel “bach” neu enw personol.
- Tyddyn Bodychen
- Tyddyn Bach
- Ynys y Pwntan
- Tyddyn Bryn Gwilym
- Tyddyn Carnedd Roger
- Tir ym Moel Bennarth a brynwyd oddi wrth Cadwaladr ap Hugh Griffith
- Tyddyn Dol Bebin
- Rhos yr Unman
- Tal y Garnedd
- Cae’r fach
- Y Rhos
- Cae Main
LLANRWST (Trefgordd Gwedir)
- Rhwyddfyd
PISTYLL
- Tyddyn y Tŷ Hen (Nant Gwrtheyrn)
1723
Parhaodd y teulu Ellis i fod yn berchen ar y tiroedd hyn a thrwy briodas eu cysylltu ag ystad Gwynfryn, Llanystumdwy. Er i David Ellis, M.A., Llanengan (marw 1761) a’i fab yntau, Richard Ellis, M.A., ficer Clynnog Fawr (1730-1805), gael gyrfa yn yr Eglwys, mae’n debyg iddynt ddal i fyw ym Modychen, yn ôl rhai gweithredoedd ac ati.[2] Daeth mab yr ail, sef David Ellis arall (marw 1819), i feddiant llawn o ystad Cefndeuddwr a Gwynfryn, trwy ewyrth ei fam, gan newid ei gyfenw i Ellis-Nanney. Trwy hyn aeth ystad Bodychen yn rhan o ystad lawer mwy.[3] Mewn gweithred gyn-briodasol, dyddiedig 1723, pan briododd David Ellis, M.A. â Bridget Carreg, rhestrir yr isod fel rhan o ystad Bodychen.[4]:
CLYNNOG FAWR
- Tyddyn Glanrafon
- Carnedd Roger
- Bodychen
- Ynys y Pwntan
- Tŷ yn y Cowrt a Tŷ isa’r Cowrt
LLANLLYFNI
- Rhosyrhyman
- Tal y Garnedd
- Dol Bebin
- Dryll y Sarnau
1781
Mewn gweithred arall, dyddiedig 1781, ceir rhestr gyffelyb sy’n dangos rhywfaint o newid i’r ystad.[5]:
CLYNNOG FAWR
- Tyddyn Glanrafon
- Foel bach
- Garnedd Roger
- Cae’r drain
- Foel Benarth
- Dryll Sir Hugh
- Foelfawr
- Brynhafod bach
- Tŷ Isa neu Cwrt neu Tŷ’n Cwrt, neu Tai yn y Cowrt neu Tai issa yn y Cowrt
- Bodychain
- Nant yr ych
- Ynysbwntan
LLANLLYFNI
- Dolbebin
- Dryll y Sarn
- Talgarnedd
- Rhosyrhyman
- Gors dopiog
1889
Er nad oes sicrwydd pryd y gwerthwyd pob un o’r ffermydd a thiroedd a nodwyd uchod, cynhaliwyd arwerthiant ym 1889 pan aeth y canlynol (ymysg llawer un arall) dan y morthwyl.[6]
CLYNNOG FAWR
- Foel
- Glan’rafon
- Brynhafod
- Ynysbwntan
- Bodychain (“South” a “North”)
LLANLLYFNI
- Rhos yr Hynman