Tyrpeg Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:07, 19 Ionawr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai giât Tyrpeg Gelli ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Glan-rhyd ym mhlwyf Llanwnda a Phen-y-groes, ger fferm yr Hendre, ar y darn o'r hen ffordd a oedd arfer bod yn lôn bost yr A487 nes i [[Ffordd Osgoi P{en-y-groes]] agor yn 2000. Roedd y tŷ tyrpeg yn dal i sefyll tan y 1980au, pan y'i chwalwyd er mwyn codi tŷ annedd newydd, sef Y Bwthyn. Yn wir, dyna oedd enw'r tŷ tyrpeg ei hun wedi iddo gau fel tollborth ac wedyn wasanaethu fel tŷ fferm yr Hendre hyd 1919. Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Nyffryn Nantlle neu o'r dyffryn hwnnw. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1810, er nad oes cyfrifon cynnar am incwm y giât. Yr arfer oedd i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod pob giât dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Giât y Dolydd oedd un o'r holl giatiau a ddeuai ag incwm sylweddol i'r Ymddiriedolaeth, gyda'r rhent yn amrywio rhwng £96 a £120 y flwyddyn, a hynny rhwng 1840 ac 1881. Dylid cymharu hyn efo'r rhent eithriadol o ryw £400 am giât Pont Seiont, er £10 yn unig a delid am dyrpeg Gelli yn Nantlle.[1]

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69