Chwarel Gwernor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:07, 6 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Gwernor, wedi'i lleoli ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle hanner ffordd rhwng pentrefi Tal-y-sarn a Nantlle, wrth ochr y lôn a adeiladwyd yn y 1920au. Cyn i'r chwarel agor, ond o fewn cof i hen ddynion ym 1907 roedd gwaith copr ar y safle, ac roedd olwyn ddwr yno i weithio'r peiriannau.[1]

Roedd yn gweithredu erbyn 1873, pan oedd 20 o ddynion yn gweithio yno, ac yn cynhyrchu oddeutu 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd y llechi'n rhai prin oherwydd eu lliw, sef gwyrdd ariannaidd, ond gan fod haenau llechi gwyrdd a glas yn gymysg, profodd i fod yn gostus, ac aeth y chwarel yn rhy gostus i'w gweithio, gan gau tua 1930. Prynodd Dorothea y lle ond ni bu'r cwmni hwnnw'n ei gweithio. Dyma un o'r chwareli nad oedd â chysylltiad â Rheilffordd Nantlle, a dibynnwyd ar rym dŵr ar gyfer symud llechi, pwmpio a thrin y slabiau.[2] Oherwydd hyn, rhaid oedd i'r rheolwyr warchod eu cyflenwad o ddŵr, yn arbennig ar ôl iddynt osod tyrbinau ac olwyn Pelton, ac aethant i gyfraith ym 1907 i atal Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd; Gwernor enillodd yr achos, gydag effeithiau drwg ar Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd. Gweler yr hanes yma.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Yr Herald Cymreig, 12.3.1907, t.8
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 322.