Gwaith copr Gwernor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tua chanol y 19g. roedd gwaith copr bach ar dir Gwernor, i'r dwyrain i'r fan lle agorwyd Chwarel Gwernor yn nes ymlaen yn y ganrif. Mae nifer o hen siafftiau'n cael eu nodi ar fapiau Ordnans.

Defnyddid olwyn ddŵr a drowyd gan ddŵr a redai o Lyn Cwm Silyn, ac a fyddai'n achosi ffrwgwd rhwng chwareli ym 1907. Ymddengys mai oherwydd y ffaith fod llechi'n talu'n well na chopr y rhoddwyd gorau i dyllu am y mwynau hynny.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Yr Herald Cymreig, 12.3.1907, t.8