John J. Evans

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:50, 8 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed John J. Evans (1833-1900) ym Mhencarmel, Llandwrog Uchaf, tyddyn ger Dyffryn Twrog, yn ail fab mewn teulu o saith i John a Jane Evans. Roedd ei dad John Evans (g.1797) yn chwarelwr a dilynodd ei feibion ef i’r chwarel.[1] Nid oedd y cartref yn un arbennig o grefyddol nes iddynt gael tröedigaeth adeg Diwygiad 1858. Mae’n debyg i John J. Evans dderbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Elis Tomos ond, am reswm nad yw wedi dod yn eglur hyd yma, cafodd gyfnod o addysg yn Nulyn hefyd. Meddai ei gofiannydd, Hugh Menander Jones:

Bu am ychydig amser mewn ysgol yn Nulyn, a llwyddodd yno i gael cipdrem ar werth addysg, hyd oni phenderfynodd fynnu cael mwy o wybodaeth er mwyn bod o les iddo ei hun ac i eraill hefyd. Parhaodd i gyfoethogi a diwyllio ei feddwl drwy holl ystod ei oes. 

Mae’n amlwg iddo fod yn ddyn o gymeriad cadarn a chywir. Meddai Menander eto:

Pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, efe a'i gwnâi â'i holl egni: cas fyddai ganddo y llesg, y diog, a'r diynni, am fod gwaith ac ymroad wedi dod yn elfennau byw iddo ef, gan ysgogi ei holl natur. Elfen arall amlwg yn ei gymeriad oedd manylder. Byddai yn hynod fanwl a deddfol gyda phopeth: os gwnâi gytundeb, byddai raid cadw ato i'r llythyren - y lleiaf fel y mwyaf. Dyn rheol a deddf oedd ef iddo ei hun yn gystal ag i eraill...a chydnabyddid ef gan bawb a'i hadwaenai fel dyn o gyngor a barn bwyllog. Meddai graffter i ddeall a synnwyr i reoli. Byddai yn ofalus bob amser rhag dweud dim i ddiraddio, a thynnu oddi wrth, urddas synnwyr a doethineb. Eto, o ran ei gymeriad moesol, hyd y gallaf i farnu, yr oedd yn gymeriad gwych, - yn bur, yn gywir, yn onest, ac yn uniawn. Dyma oedd ei grefydd - purdeb carictor, sef dyletswyddau bywyd yn cael eu cyflawni yng ngrym a than ddylanwad yr argymhellion cryfaf. Dichon fod ei foesoldeb uchel wedi bod yn foddion i'w arwain i gyffiniau hunan-gyfìawnder, ambell i dro, wrth weled moesau llac rhai eraill broffesent bethau gwell...  Meddai barch dwfn i bopeth gwir grefyddol; ac nis gallai oddef unrhyw duedd at gellwair gyda phethau cysegredig: parchai yn onest hynny o dda pur a fyddai ym mhawb, crefyddwyr ynghyd â rhai digrefydd. 

Ac yntau’n dal yn ifanc, sicrhaodd swydd yn Chwarel Cilgwyn. Erbyn 1861, roedd wedi priodi ag Ann, merch o blwyf Llanfair Isgaer, ac ar ôl cyfnod byr ym mhlwyf Llanwnda, gwnaethant eu cartref yng Nglanrafon, ger Bwlch-y-llyn, Y Fron. Arwydd efallai o’i safon addysgol (yn ei dyb ef ei hun beth bynnag) oedd iddo ddewis ateb y Cyfrifiad yn Saesneg, un o’r ychydig iawn i wneud hynny yn yr ardal. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, ac yn ôl Menander, dyma’r cyfnod mwyaf gweithgar iddo fel arweinydd diwylliant yr ardal:

Cyfnod pwysig, ar rai cyfrifon, oedd y cyfnod cyntaf hwn yn hanes Mr Evans, pan oedd ef, ar y pryd, yn glerc yn Chwarel y Cilgwyn. Efe oedd prif arweinydd yr ardal a'r cymdogaethau gyda llenyddiaeth ac addysg, ynghyd â'r Ysgol Sabothol.

Roedd Ysgol Elis Tomos wedi cau ar ôl i’r gŵr hwnnw fynd i oedran, ac nid oedd enw da i effeithiolrwydd Ysgol Bron-y-foel. Aeth ati i sefydlu dosbarth nos i wneud yn iawn am ddiffygion addysg ei fro:

Teimlodd Mr Evans, ar y pryd, fod angen am well ac effeithiolach darpariaeth ar gyfer y bobl ieuainc ; ac mewn canlyniad penderfynodd sefydlu ysgol nos bob gaeaf; ac efe ei hun oedd yr athro ynddi. Cylch yr addysg a gymerodd oedd ysgrifennu, rhifyddiaeth, Saesneg, a gramadeg. Gwnaeth waith rhagorol, yn wir, am flynyddoedd: argraffodd, yn ddiau, ar feddwl llawer o fechgyn gorau'r ardal beth oedd gwir werth addysg. Parhaodd yr ysgol nos yn llwyddiannus am lawer gaeaf, yn ei dŷ ei hun ac ar ôl hynny mewn tŷ segur oedd yn y gymdogaeth. Byddai raid dysgu, neu ddioddef y canlyniadau; ac ni fyddai ef byth yn brin o dalu yn ddrud i'r diofal a'r diynni. Cadwai ddisgyblaeth arni yn fanwl ac yn llymdost ar adegau: ond ymdrechodd yn deg a chanmoladwy. Gwnaeth waith mawr hefyd gyda'r Ysgol Sabothol yn y cylch: efe, bob amser, a ystyrid y diwinydd pennaf a'r athro gorau ynddi. Taflodd ei holl enaid, yn ei sêl, ei ynni, a'i gysondeb, i'r gwaith pwysig hwn..... Teimlai fod awr ar y Sabath yn rhy fyr i wneud argraff arhosol ar feddwl bechgyn ieuainc. Y mae ôl ei ymdrech yn aros eto. Daeth ei sêl a'i weithgarwch i'r golwg hefyd gyda llenyddiaeth yr ardal a chylch Dosbarth Clynnog.

Tua'r flwyddyn 1865, cafodd ei ddewis yn oruchwyliwr ar Chwarel Dorothea. Wedi iddo newid dwy ardal, a dod i gylch newydd o gyfrifoldeb, cefnodd i raddau ar y gweithgareddau cymunedol hyn oherwydd pwysau ei swydd newydd. Gwelodd hefyd y dylai astudio daeareg ar gyfer ei waith, ac aeth ati’n ddygn am rai blynyddoedd. Enillodd safle iddo’i hun fel yr awdurdod pennaf ar ffurfiad a gogwyddiad llechfeini Gogledd Cymru; ac ysgrifennodd gryn lawer ar y pwnc yn Y Geninen. Dewiswyd ef yn aelod o'r Gymdeithas Ddaearegol Freiniol ac, yn y man, yn Gymrawd iddi (sef F.R.S.). Dewiswyd ef hefyd yn aelod o Ddirprwyaeth y Chwarelau.

Roedd yn ffodus i gymryd yr awenau yn Chwarel Dorothea yr adeg honno: roedd y graig yn dda a heb ei gweithio fawr ddim, a’r gwaith o gyrraedd y gwythiennau gorau wedi ei wneud. Cynyddodd yr elw yn fawr, yn ogystal â safon y gwaith, safon y cyflogau a safon yr hyn a alwyd gan Menander yn “safon cymeriad marchnadol y llechau yn Nyffryn Nantlle”. Roedd gwaith i reolwr newydd ei wneud, fodd bynnag. Tipyn yn llac a rhydd oedd y dull o weithio’r chwarel cyn iddo ddechrau ar y gwaith o'i harolygu; ac nid gorchwyl hawdd iddo oedd sefydlu cyfundrefn newydd o weithio, gyda chyfres o reolau manwl a chelyd, fel y tybid, ag oedd yn gwrthdaro yn enbyd, ar adegau, yn erbyn rhyddid a theimlad y gweithwyr. Ni fuasai hynny byth wedi llwyddo gyda’r chwarelwyr oedd wedi arfer efo gweithdrefnau mwy rhydd, heblaw bod John Evans wedi cysylltu'r gweithdrefnau newydd hyn â chyflog teilwng.

Tua 1865, roedd y teulu wedi symud i dŷ rheolwr Chwarel Dorothea, Plas Dorothea, ac yno bu’r teulu’n byw – John, Ann ei wraig, a’u pedair merch, Ann (g.1859); Jane (g.1861); Ellen (g.1863); a Caroline (g.1867), tan 1874.

Mae’n amlwg iddo fod yn llwyddiannus yn y gwaith, gan iddo gael ei ddenu gan yr Arglwydd Penrhyn i reoli Chwarel Cae-braich-y-cafn, Bethesda, ac yn ddirprwy i brif reolwr chwareli Penrhyn, Arthur Wyatt. Bu hynny ym 1874, a gadawodd John J. Evans a’r teulu am Ddyffryn Ogwen. Ymsefydlodd y teulu ym Mrynderwen, tŷ sylweddol wrth droed y chwarel. Roedd bywyd yn braf yno, mae’n debyg. Ganwyd pumed merch yno, Emily Rosie (g.1878). Roedd gan y teulu ddwy forwyn a hefyd gwas ffarm i ofalu am dir y tŷ.[2]

Bu J.J. Evans yno yn Nyffryn Ogwen hyd 1887, pan ymddiswyddodd, gan arddel yr un egwyddorion wrth ddelio’n deg â'r gweithwyr. Roedd wedi ffurfio perthynas dda â'r gweithwyr, a chyda W.J. Parry, a elwid yn “Quarrymen’s Champion” ac yn ysgrifennydd Clwb Budd-daliadau’r Chwarel. Y nod oedd cael gwaith da gan y chwarelwyr ac iddynt hwythau dderbyn cyflogau da o ganlyniad i'w hymdrechion. Honnodd Evans mai cyflogau Penrhyn oedd y rhai gorau o holl chwarelau llechi Cymru. Roedd Wyatt wedi mynd, fodd bynnag, ac roedd Penrhyn wedi penodi Sais o'r enw Young yn brif reolwr a chyfrifydd, dyn nad oedd yn gyfarwydd â’r diwydiant. Teimlai Evans nad oedd ei egwyddorion rheolaethol yn cael eu cefnogi, a mynnai’r chwarelwyr fod Evans yn cael ei lethu gan awydd Young i wthio Anglicaniaid a rhai nad oeddynt yn aelodau o’r Undeb i safleoedd amlwg yn y chwarel.[3]

Ym 1887, ymddeolodd J.J. Evans, gan brynu tŷ yng Nghaernarfon, sef Marino, Ffordd y Gogledd. Mae’n bur debygol bod Emily Rosie wedi marw, gan nad oedd ond un o’u merched yn dal i fyw gyda’r rhieni, sef Caroline.[4]

Dichon mai yno y bwriadai Evans dreulio gweddill ei oes yn dilyn ei ddiddordebau, ac fe’i disgrifir fel “rheolwr chwarel lechi wedi ymddeol” ond pan fu farw O.T. Owen, olynydd iddo fel rheolwr Chwarel Dorothea, fe’i gwahoddwyd yn ôl i ail-ymgymryd â'i hen swydd. Nid mor hawdd y tro hwn oedd ymgymryd â rheolaeth y chwarel. Bu llawer o weithio ar y graig ac yr oedd angen rhoi sylw i’r isadeiledd. Adferwyd y chwarel i rywbeth yn debyg i’w chyflwr gynt, ac ni fu sôn am yr anawsterau a orchfygodd Chwarel y Penrhyn yn y man.

Cafodd hyd i amser i chwarae ei ran yn y gymuned hefyd: roedd yn aelod o'r Cyngor Sir, Bwrdd y Gwarcheidwaid, a'r Cyngor Dosbarth; a phob amser, meddid, roedd yn dda wrth y tlawd a'r anghenus. Colled i’r dyffryn ac i weithwyr Dorothea oedd ei farwolaeth ar ôl cyfnod o salwch fis Tachwedd 1900 yn 66 oed, ac yntau erbyn hyn yn ôl yn ei gyn-gartref, Plas Dorothea.[5]. Cafodd un o'r angladdau mwyaf lluosog a pharchus a welodd Dyffryn Nantlle erioed. Gadawodd weddw a phedair o ferched. Ym 1901, roedd ei weddw yn byw yn Ymwlch, tŷ braf yn Ffordd De Segontiwm, Caernarfon, gyda’i merch Caroline, ac ŵyr, John Ernest Morus, clerc erthygledig mewn cwmni o gyfreithwyr. Roedd morwyn ganddynt ac felly roedd J.J. Evans wedi sicrhau bywyd digon cyfforddus i’w deulu yn ôl safonau’r oes. Ym 1911, roedd ei weddw'n byw yn Bryn-y-don, Lôn Ddewi, Caernarfon, a hynny ar ei phen ei hun heblaw am forwyn.[6]

Wrth grynhoi ei fywyd, nododd Menander hyn:

Wrth symio y cwbl i fyny gellir dweud am dano ei fod yn ddyn call, o synnwyr cyffredin cryf, yn graff a medrus, yn Rhyddfrydwr trwyadl, yn Ymneilltuwr egwyddorol, yn ddirwestwr pur, yn ddaearegwr gwych, yn llenor da, ac yn ddiwinydd rhagorol, wedi tyfu i'w faintioli yn ei nerth ei hun; a chaeodd ei lygaid ar y byd yma yn Gristion.[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llandwrog
  2. Cyfrifiad plwyf Llandygái, 1881
  3. Jean Lindsay, ‘’The Great Strike’’, (Newton Abbot, 1987), tt.24-39
  4. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1891
  5. Y Genedl Gymreig, 4.12.1900, t.5. Mae adroddiad helaeth yn enwi'r teulu ac ati yn y fan hyn.
  6. Cyfrifiadau plwyf Llanbeblig, 1901-11
  7. Prif ffynhonnell yr erthygl hon yw’r cofiant byr gan H. Menander Jones yn Y Geninen, Rhifyn Gŵyl Dewi 1903, tt.62-64. Diweddarwyd orgraff y dyfyniadau o’r ysgrif.