Ysgol Elis Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:20, 6 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhelid ysgol tan oddeutu 1850 ym mhentref Carmel gan ddyn o'r enw Elis Tomos. Mae disgrifiad ohoni gan Hugh Menander Jones yn Y Geninen:

Nid oedd yn yr ardal, [hyd at ddechrau'r 1850au], ond un ysgol, a elwid yn "Ysgol Elis Tomos," yr hon a gynhelid ar y cyntaf yn nghapel yr Anibynwyr, Pisgah, ond yn ddiweddarach a gynhelid yn y tŷ capel, mewn lle cyfyng ac anghyfleus - plant yn y llawr a'r fules yn y cefn; a mynych yr anghydgordiad a geid yn lleisiau y naill a'r llall. Fel ysgol effeithiol i ddwyn plant i fyny yr oedd iddi enw a chlod, yn bell ac yn agos; ac nid oedd neb yn yr ardal a'r cylchoedd o'r bron na fu trwy gwrs o addysg ynddi: ond yr oedd cylch ei haddysg yn gwbl mewn darllen y Beibl Cymraeg a dysgu ysgrifennu; ac yr oedd dysgu ysgrifennu ynddi yn elfen bwysig yn ngolwg pawb. Ond symudwyd Elis Tomos gan henaint, a daeth terfyn ar yr ysgol. Nid oedd yn y gymydogaeth ar ôl hynny, ond Ysgol Genedlaethol Bronyfoel, Cesarea, cylch addysg yr hon oedd, rhaid addef, yn fwy ac yn well, ond yn bur aneffeithiol.[1] 

Nid oes sôn yn y Llyfrau Gleision am ysgol Elis Tomos, dim ond Ysgol Bron-y-foel, a elwid y pryd hynny'n "Ysgol y Mynydd", (The Mountain School).[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Geninen, Rhifyn Gŵyl Dewi, 1903, t.62. Diweddarwyd yr orgraff
  2. Llyfrau Gleision, 1847, Cyf.III, t.110-11