Ellis Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig iawn sydd yn wybyddus am Ellis Thomas (1781-?1856), ysgolfeistr ysgol breifat a gynhelid yng nghapel Pisgah, Carmel yn ystod yr 1840au. Roedd yn ŵr o blwyf Llandwrog, gyda gwraig o'r enw Martha (g.1777), a hanai o blwyf Llandygái. Roeddynt yn byw yn Nhan-y-braich ym 1841, ond erbyn 1851 roeddynt wedi symud i gadw'r tŷ capel ym Mhisgah, ac yn y tŷ y cynhelid yr ysgol am rai blynyddoedd. Fe'i disgrifir yn y Cyfrifiad fel athro wedi ymddeol.[1]

Ceir disgrifiad Hugh Menander Jones o'r ysgol yn Y Geninen. Dichon mai John J. Evans, Pencarmel, a aeth ymlaen i fod yn rheolwr Chwarel Dorothea, oedd disgybl mwyaf llwyddiannus yr ysgol.Mae'r disgrifiad ar gael gan Menander sydd yn rhoi darlun o gyfyngiadau addysg yng nghanol y 19g.

 "Nid oedd yn yr ardal, pan oeddwn i yn fachgen, ond un ysgol, a elwid yn "Ysgol Elis Tomos," yr hon a gynhelid ar y cyntaf yn nghapel yr Anibynwyr, Pisgah, cnd yn ddiweddarach a gynhelid yn y tŷ capel, mewn lle cyfyng ac anghyfleus — y plant yn y llawr a'r fules yn y cefn; a mynych yr anghydgordiad a geid yn lleisiau y naill a'r llall. Fel ysgol effeithiol i ddwyn plant i fyny yr oedd iddi enw a chlod, yn bell ac yn agos; ac nid oedd neb yn yr ardal a'r cylchoedd o'r bron na fu trwy gwrs o addysg ynddi: ond yr oedd cylch ei haddysg yn gwbl mewn darllen y Beibl Cymraeg a dysgu ysgrifenu; ac yr oedd dysgu ysgrifenu ynddi yn elfen bwysig yn ngolwg pawb. Ond symudwyd Elis Tomos gan henaint, a daeth terfyn ar yr ysgol. Nid oedd yn.y gymydogaefh. ar ol hyny, ond Ysgol Genedlaethol Bronyfoel, Cesarea, cylch addysg yr hon oedd, rhaid addef, yn fwy ac yn well, ond yn bur aneffeithiol."[2]  

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1841-51
  2. H. Menander Jones, "John J. Evans, F.G.S.", yn Y Geninen, Rhifyn Gwyl Dewi, 1903, t.62