Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle
Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”, nid oedd hynny'n dasg hawdd. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o brif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle a oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.
Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn dechrau:
TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.
Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffennodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:
Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.
- William John Davies (Glan Llyfnwy)
- Howell Roberts (Hywel Tudur)
- J. Machreth Rees
- Parch D. Jones
- H.E. Jones (Hywel Cefni)
- Owen Edwards (Anant)
- G. (Geraint) Owen
- John Owen Williams (Mawrthfab)
- Maldwynog
- Trebor Aled. Rhaid amau ai Robert Jones (Trebor Aled) (1866-1917) sydd yma, gan mai dyn o Lansannan yn Sir Ddinbych oedd hwnnw, heb gysylltiad hyd y gwyddys â Dyffryn Nantlle.[2]
- Aled Ddu
- Croesfryn
- H. H. (Gwelltyn)
- Ioan ap Ioan. Mae'n bur amheus ai John Williams (Ioan ap Ioan) (1800-1871) sydd yma. Gŵr o Lanrwst oedd hwnnw a wasanaethodd fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y de ar hyd ei oes.
- Owen Meirig
- Ioan Eifion
- Ieuan Nebo
- Iolo Glan Twrog
Gellid tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - wedi esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, ni fu unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhad o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith fod pedwar o'r chwech cyntaf ar y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cyntaf yng Nghof y Cwmwd. Fodd bynnag, hyd yma ni chafodd unrhyw un yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau i'r Cof ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd, gobeithio, yn cael sylw wedi hyn!
Rhaid amau hefyd mai dim ond beirdd Dyffryn Nantlle a oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis David Jones (Dewi Arfon) ac Ebeneser Thomas (Eben Fardd); nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol a welwyd yn nhraddodiad barddonol y dyffryn gyda gwaith rhai fel Robert Williams Parry, T. H. Parry-Williams, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones ac yn y blaen.