Evan Jones (Ieuan Nebo)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Ieuan Nebo)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y chwarelwr Evan Jones (Ieuan Nebo) (1854-1910) yn fardd ac yn biler yr achos yng Nghapel Nebo, ym mhentref Nebo.

Cafodd ei eni ym Mhenmorfa. Ym 1861, roedd yn byw mewn tŷ o'r enw Pen-y-cefn, Penmorfa gyda'i dad Evan Jones (a aned ym Mhenmorfa ym 1828) a'i wraig Dorothy, a hanai o Lanaelhaearn, ac a aned ym 1827. [1]

Erbyn 1871, roedd y tad wedi marw, a Dorothy a'i mab Evan yn byw mewn tŷ o'r enw Gardd Iago, Nebo. Bu'n byw wedyn ym Mryn Person, Nebo, lle ffermiai dyddyn bychan 2 neu 3 erw, yn ogystal â gweithio mewn chwarel. Erbyn 1881, roedd wedi priodi â Margaret, a hanai o blwyf Llanllyfni, ac roedd ganddynt fab Robert Lloyd, a oedd yn 6 oed.[2]

Dyn grymusaf yr eglwys yng Nghapel Nebo ydoedd yn ddiamheuol. Yr oedd yn cael ei gydnabod fel llenor, bardd a cherddor, ac yn ddiwinydd o radd uchel, ac yn llawn o wasanaeth bob amser. Serch ei aml ddoniau, nid edrychid arno fel bardd mawr, fodd bynnag, gan i un sylwebydd ei osod yn ail ar bymtheg allan o ddeunaw o feirdd y Dyffryn ym 1888, a hynny yn nhrefn rhagoriaeth.[3] Mae'n debyg iddo fod yn well cerddor na bardd, a cheir adroddiadau niferus yn y papurau newydd amdano'n artist mewn cyngherddau lleol yn y dyffryn, lle honnir y gallai fod yn adlonwr difyr a doniol.

Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.[4]

Bu farw 4 Medi 1910, gan adael eiddo gwerth £96 i'w weddw Margaret Lloyd Jones. Yr oedd y cwpl wedi byw ym Mryn Person ar hyd eu bywyd priodasol.[5]

Roedd ganddo ddau fab, Robert Lloyd (g.1875) ac Evan Lloyd Jones (g.1885). Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon" yn ystod Diwygiad 1904-5.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Penmorfa, 1861
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871-81
  3. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  4. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 16.2.2020
  5. Calendar Prifiant, 1910, ar gael yn Archifdy Caernarfon
  6. Cardiff Times, 14.1.1905, t.8