Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle
Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.
Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:
TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.
Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffenodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:
Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.
Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.
- William John Davies (Glan Llyfnwy)
- Howell Roberts (Hywel Tudur)
- J. Machreth Rees
- Parch D. Jones
- H.E. Jones (Hywel Cefni)
- Owen Edwards (Anant)
- G. (Geraint) Owen
- Mawrthfab
- Maldwynog
- Trebor Aled
- Aled Ddu
- Croesfryn
- H. H. (Gwelltyn)
- Ioan ap Ioan
- Owen Meirig
- Ioan Eifion
- Ieuan Nebo
- Iolo Glan Twrog
Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhâd o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith mai pedair o'r chwech cyntaf yn y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cynharaf yng Nghof y Cwmwd, eithr na chafwyd neb yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau erthyglau ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd yn cael sylw wedi hyn!
Rhaid hefyd amau mai dim ond beirdd Dyffryn Nantlle oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis David Jones (Dewi Arfon) ac Ebeneser Thomas (Eben Fardd); nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol yn nhraddodiad y dyffryn gyda gwaith rhai fel Robert Williams Parry, T. H. Parry-Williams, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones ac yn y blaen.
Cyfeiriadau
- ↑ op.cit., t.7