Melin Faesog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 4 Hydref 2022 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Heb fod ymhell llifa afonig Afon Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Mae lle i gredu mai'r Afon Rheon hon oedd dan sylw yn rhai o Englynion y Beddau. Dyfynnir dau ohonynt gan Eben Fardd yn Cyff Beuno. Tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif:


Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,
Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,
Kymry a orfydd, kain fydd e dragon
Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,
Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon.


Bedd Rhun mab Pŷd yn Ergyd
Afon, yn oerfel yng ngweryd,
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.

Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.[1].

Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682[2]. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, Melin Faesog, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.[3]

Melinwyr Melin Faesog 1682-1920[4].

1682 Robert Griffith 1719 Robert Price 1806 Samuel Roberts 1829 Richard Roberts 1840 William Williams 1846 Richard Williams 1857 Emanuel Evas 1859 David Evans 1890 John Jones 1908 Daniel Roberts 1920 John Jones


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Sophia Pari-Jones, Melin Faesog cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg Echoes from a Water Wheel (hunan-gyhoeddedig, 2011)
  2. idem. t.10
  3. Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865
  4. Echoes from a water wheel gan Sophia Pari-Jones, eto 2011