Meredydd ap Hwlcyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:22, 6 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Meredydd ap Hwlcyn (neu "Meredydd Llwyd") o Lynllifon (c. 1390 - c.1460) yn fab i Hwlcyn Llwyd a amddiffynnodd Gastell Caernarfon yn erbyn lluoedd Glyndŵr. Fel ei dad, ochrodd Meredydd gyda choron Lloegr, ac erbyn 1413-14, roedd wedi ei benodi'n feili (sef prif swyddog y Goron) yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Er bod cyfreithiau yn y 15g. yn erbyn i'r Cymry fod yn berchen ar arfau ac ati, fe laciwyd y rheolau fel y gallai dynion y gallai'r awdurdodau ymddiried ynddynt fod ag arfau heb gosb, a bwrw eu bod yn cynorthwyo'r fyddin Seisnig ar ei hanturiaethau dramor. Ym 1456, yn ystod teyrnasiad Harri VI, derbyniodd Meredydd lythyr amddiffyniad rhag y cosbau hyn, gan fynd gyda llu o ddynion yn ei ddilyn i Ynys Guernsey i warchod yr ynys honno.[1]

Priododd â Gwenhwyfar ferch Llywelyn ab Edmund ap Gruffydd ap Ednyfed ap Gruffydd o linach Lliwarch ap Brân yn ôl yr achresi lled fytholegol. Cawsant nifer o ferched, Annes, Alswn, Angharad, Nest a Catherine, yn ogystal â mab, Robert ap Meredydd, Glynllifon.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.34
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.172