Pont Betws Garmon
Saif Pont Betws Garmon (neu Pont y Betws) ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda.
Ym 1776, adroddwyd wrth y Llys Chwarter fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18 troedfedd, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6 throedfedd o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.[1]
Mae dyddiad ar y bont, sef 1777, ac enw Henry Parry ar garreg dan y bont.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma