Gwersyll Carcharorion Rhyfel y Bontnewydd
Sefydlwyd Gwersyll Carcharorion Rhyfel yn Y Bontnewydd ym 1943 er mwyn cartrefu carcharorion rhyfel o’r Eidal a oedd yn gweithio ar ffermydd yn y gymdogaeth. Mae hanesion yn adrodd fel yr oeddynt yn rhydd i feicio at eu gwaith ac ati; roedd gan y carcharorion hyn yr enw o fod yn falch eu bod wedi cael eu dal ac yn hapus i fod yng Nghymru.
Ar ôl i’r Eidalwyr gael eu symud oddi yno, rywbryd ym 1944-5, defnyddiwyd y gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel Almeinig o fai 1945 ymlaen. Er bod y rhyfel wedi dod i ben, ni chaniatawyd i lawer o’r carcharorion hyn i ddychwelyd adref tan 1947-8.
Fel yn achos yr Eidalwyr, dangoswyd caredigrwydd i’r dynion hyn ac mae yna dystiolaeth eu bod yn ddigon hapus. Roedd y gwersyll bron gyferbyn â safle Cartref Bontnewydd, ac roedd Gweinidog Capel Moriah (MC), Caernarfon, y Parch Stephen Tudor, a’i wraig yn gofalu am eu lles. Sefydlwyd llyfrgell ar eu cyfer gan Mr Tudor a gwnaeth Mrs Tudor ginio Sul iddynt bob wythnos. Ar sawl achlysur, chwaraeodd tîm pêl droed y carcharorion yn erbyn tîm RAF Llandwrog.
Ar ôl 1948, bu’r gwersyll yn wag tan 1962, pan ddefnyddiwyd y cytiau dros dro fel cartrefi ar gyfer teuluoedd lleol wrth i ystâd tai cyngor Glan Beuno gael eu hadeiladu. Ers hynny, chwalwyd y cytiau, ond mae eu sylfaenu’n dal i’w gweld yn gae i’r gogledd o ddreif Plas Dinas.[1]