Ysgol Gynradd Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:42, 21 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol gynradd ym mhentref Y Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd. Mae'n sefyll ar lan Isgwyrfai Afon Gwyrfai.

Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a gelwid hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Yn ddiweddarach fe'i galwyd yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn briodol iawn yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.[1]

Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd ym 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 1993.[2] Fe'i haddaswyd yn lle hen neuadd bren a losgwyd yn llwyr ychydig cyn hynny. Safai honno ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon, gyferbyn â thai Pentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi ei godi ar safle'r hen neuadd erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922 XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)
  2. Plac ar wal y neuadd