John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:39, 14 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

John Roberts (1916 - 2016), a fu byw am y rhan fwyaf o'i oes yn Y Groeslon, oedd trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1959 a 1979. Fe'i ganwyd yn Lerpwl, ond oherwydd iechyd bregus ei fam bu'n byw gyda'i nain yn Llangian nes iddo fod yn 7 oed, a chyfrifai ei hun felly'n un o Lŷn. Bu'n gweithio gyda chwmni o beirianwyr sifil yn Lerpwl, ac wedyn ym Môn ac Arfon. Ar ôl cyfnod fel gweithiwr fferm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe raddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe a dechrau ar yrfa ym maes gwasanaethau ieuenctid. Bu'n gweithio i'r Urdd am ddeng mlynedd yn Llanelli a Chaernarfon cyn cael swydd fel Gweinyddwr Coleg Glynllifon. Ym 1959, cychwynnodd ar gyfnod o 20 mlynedd fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]

Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, Yr Helygen Gam, ac yntau'n 91 oed.

Bu'n ffrind agos i'r Dr. John Gwilym Jones. Tua diwedd ei oes, bu Arthur Wyn Parry yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yna symud i gartref gofal Gwynfa yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.[2]

Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram oddi wrth Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"![3]

Cyfeiriadau

  1. John Roberts, Yr Helygen Gam, (Caernarfon, 2007), clawr ôl
  2. Gwybodaeth bersonol
  3. Daily Post, 21.7.2016 [1]