Bwlch y Moch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:38, 7 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bwlch y Moch i'r gogledd o Clogwyn y Garreg ym mhen dwyreiniol Dyffryn Nantlle. Adeiladwyd cronfa ddŵr sylweddol ar gyfer Gwaith copr Drws-y-coed ar dop y bwlch lle mae cors heddiw, ac mae olion wal y gronfa i'w gweld hyd heddiw. Mae llwybr trwy'r bwlch o fferm Drws-y-coed Isaf i Blanwydd yn Nyffryn Gwyrfai ar hyd gwaelod llethr Foel Rudd, ond i bob pwrpas, nodwedd ddaearyddol yn unig yw Bwlch y Moch, gan fod ffordd y dyffryn, sef B4418, yn croesi i Ddyffryn Gwyrfai i'r de o Glogwyn y Garreg trwy Fwlch y Gylfin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau