Drws-y-coed Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm yn ardal Drws-y-coed, tua hanner ffordd rhwng pentrefi Nantlle a Rhyd-ddu yw Drws-y-coed Isaf.

Saif ar ochr chwith ffordd y B4418 wrth fynd o Nantlle i gyfeiriad Rhyd-ddu, ychydig i'r gorllewin o Lyn y Dywarchen. Mae'r fferm yn llechu yng nghysgod Craig y Bera, ar lethrau deheuol Mynydd Mawr, a'r ochr arall i'r ffordd mae Clogwyn y Barcut yn codi'n syth i fyny. Ychydig i'r gogledd o'r ffermdy gwelir olion anheddiad cynnar sy'n cynnwys nifer o gytiau crynion sy'n nodweddiadol o'r ardal. Ychydig uwch i fyny na'r anheddiad hwn mae gweddillion lloc ar ffurf wy sydd tua 12m o hyd ac 8m o led. Mae'r wal sy'n amgylchynu'r lloc yn cynnwys cwrs sylfaen o gerrig canolig i fawr eu maint sydd heb eu trin ac mae'r wal yn 1m o led a 0.5m o uchder. Mae'r lloc yn ymddangos fel llwyfan gweddol wastad ar ochr y bryn ac mae'n bosib ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad y cytiau crynion sydd islaw iddo. Adeiladwyd wal gerrig sych ar draws y lloc - mae'r wal hon wedi'i gwneud o gerrig canolig i fawr sydd heb eu trin ac mae'n 16m o hyd, 1m o led ac 1.5m o uchder.[1]

Mae nifer o olion y diwydiant mwyngloddio a fu'n rhan bwysig o fywyd a gwaith yr ardal o ddiwedd y 18g tan ddechrau'r 20g hefyd i'w gweld gerllaw Drws-y-coed Isaf. Gerllaw'r cytiau crynion gwelir olion gwaith copr a'r ochr arall i ffordd y B4418 gwelir olion Gwaith Arbrofol Bwlchgylfin a Gwaith Copr Tal-y-sarn ac mae Gwaith copr Simdde'r Dylluan ychydig i'r gorllewin.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, cyrchwyd 26/10/2022.