Cromlech Bachwen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:52, 26 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Lleolir siambr gladdu Bachwen ar un o gaeau fferm Bachwen ar gyrion Clynnog Fawr, yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Credir ei bod yn dyddio o’r cyfnod neolithig, sef tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n heneb sy’n nodweddiadol o seremonïau claddu'r cyfnod. Mae mewn cyflwr arbennig o dda, gyda rheiliau haearn o'i hamgylch i'w gwarchod. Mae nifer dda o ymwelwyr yn dod i'w gweld ar hyd y llwybr cyhoeddus o'r pentref ac mae'r gromlech hon yn haeddu sylw arbennig oherwydd y 110 o bantiau bychain (a elwir yn cup-marks yn Saesneg) a dwy rigol fas sydd wedi eu torri ar ben uchaf y capfaen. Cyfeirnod grid y gromlech yw SH40774948.

Gweler hefyd

Cofnod o'r heneb ar wefan y Comisiwn Brenhinol