Melinau ar lednant Afon Llyfni
Roedd o leiaf ddwy felin ar lednant Afon Llyfnwy, a redai trwy bentref Nasareth, ond gan nad yw'r afon yn fawr nac yn rymus iawn, yr oedd angen ffrwd felin a llyn melin ar gyfer y ddwy.
O'i tharddiad hyd at ei chymer gydag Afon Llyfni, ger Dol-gau, y ddwy felin hyn oedd:
- Melin lifio Eisteddfa Isaf
- Melin Bryn-y-gro, melin ŷd.
Roedd melin Bryn-y-gro â hanes hir iddi. Fe sonnir amdani mor gynnar â 1470.
Mae rhestr lawn o holl felinau gwybyddus Uwchgwyrfai, a gwybodaeth amdanynt, i'w chael yn yr Is-gategori Diwydiant a Masnach yn Cof y Cwmwd.