Melin y Plant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:04, 21 Mawrth 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Melin y Plant ym Mharc Glynllifon yn furddun a godwyd fel ffoledd, neu ffug-adeilad, lle gallai pum plentyn Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, chwarae. Roedd groto a rhaeadr fach yno, ac mae olion eraill yn awgrymu y bu olwyn ddŵr yno hefyd ar un adeg. ref>CADW, Cofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi....Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, (Caerdydd, 1998), t.210</ref> Er i waith adfer gael ei wneud ar y ffoledd tua 1990, mae wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ceir hyd i Felin y Plant wrth ochr y llwybr troed ar lan ddeheuol Afon Llifon yn y Cwm Coed.

Nid oedd Melin y Plant yn felin iawn, wrth gwrs. Fe'i hadeiladwyd er mwyn cynyddu swyn ac awyrgylch 'rhamantaidd' y Cwm Coed yng ngerddi Parc Glynllifon i ddifyrru gwahoddedigion i'r plas - er iddi hefyd fod yn fan lle gallai plant chwarae. Mae'r coed oddi amgylch yn cael eu galw'n Gwern y Felin, ond mae'n fwy tebygol mai'r felin y cyfeirir ati yn yr enw hwnnw oedd Pandy Glynllifon ychydig ymhellach i fyny'r Cwm Coed.

Cyfeiriadau