Thomas Savin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 21 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Savin (1826-23 Gorffennaf 1889) yn gyfrifol am lawer o'r rheilffyrdd a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru. Yn fasnachwr o Drefonnen, Swydd Amwythig, bu'n fasnachwr yng Nghroesoswallt cyn mentro i fyd adeiladu rheilffyrdd ac, er iddo gael ei wneud yn fethdalwr, parhaodd i weithredu fel peiriannydd a hyrwyddwr Rheilffordd Sir Gaernarfon, ar y cyd â Benjamin Piercy. Mae yna rywfaint o le i gredu ei fod yn Gymro o ran iaith. Priododd un o ferched ei frawd John Savin, (a oedd hefyd yn beiriannydd rheilffyrdd), y ficer a anfarwolwyd yn Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard.