Ffordd Osgoi Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:58, 6 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ffordd Osgoi Pen-y-groes yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Chaerdydd a de Cymru'n gyffredinol, fel nad oedd angen i deithwyr deithio mwyach trwy bentrefi Llanllyfni, Pen-y-groes a'r Groeslon gyda'u strydoedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am Nasareth hyd at gylchfan newydd a wnaed ger Tafarn y Goat ym mhentref Llanwnda. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â Lôn Eifion, sef hen drac y rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen, er y bu angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a Phont-y-crychddwr, a'r lôn o Waith Llechi Inigo Jones i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.

Yr un pryd, lledwyd y ffordd rhwng trofa Nasareth a phentref Pant-glas fel ei bod o'r un safon â'r ffordd osgoi newydd.

Yn 2022, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gorllewinol Ffordd Osgoi Caernarfon wrth gylchfan Tafarn y Goat, Llanwnda. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref Pant-glas wedi ei gwella'n sylweddol iawn.