Moduron Seren Arian

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:40, 6 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Seren Arian yn un o'r cwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy Rostryfan i Rosgadfan a'r Fron.

Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen o amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i'r cwmni ddatblygu busnes coetsys llewyrchus, a oedd yn mynd â phobl ar wyliau o fewn gwledydd Prydain a thramor, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.[1]

Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine http://www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu'r gwyliau ac yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol