Bysiau Gwynfor
Cwmni wedi ei sefydlu yn Llangefni, Ynys Môn er 1979 yw hwn. Dechreuodd gyda llogi cerbydau moethus ac, o dipyn i beth, dechrau rhedeg rhai gwasanaethau bws ym Môn. Erbyn hyn, mae'r cwmni'n un o ddau (y llall yw Bysiau Dilwyn) sydd wedi cymryd drosodd deithiau bws Uwchgwyrfai a oedd gynt yn cael eu cynnal gan Express Motors a Bysus Huw, nes i'r cwmnïau hynny gael eu rhwystro rhag gweithredu yn 2018. Bysiau bach unllawr sydd gan y cwmni, a'r lifrai'n wyn plaen.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma