Capel Brynaerau (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:05, 7 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Capel Brynaerau MC yn 2018.

Capel Methodistaidd rhwng Llanllyfni a Clynnog-fawr yw Capel Brynaerau.

Mae hanes yr achos yn ardal Clynnog-fawr yn gysylltiedig â’r achos yng Nghapel Brynaerau. Cyn codi’r capel yn 1805, credir i Fethodistiaid yr ardal addoli yn Ysgol Sul y Bedyddwyr ym Mhontllyfni cyn cael addoldy eu hunain.

Cysylltiad gyda chapeli eraill yr ardal

Pan adeiladwyd Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau â Bwlan a pharhaodd hyn hyd at 1876 pan symudwyd Bwlan i fod yn ofalaeth ar wahân.

Cysylltwyd Brynaerau yn ddiweddarach gydag Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr ac Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Uchaf â Brynaerau ac uniad Ebeneser â Seion, Gurn Goch.

Adeilad newydd

Addaswyd yr adeilad yn 1877, pan brynwyd llecyn o dir wrth ochr y capel fel claddfa gyda phrydles o 99 mlynedd arno. Adeiladwyd darn arall ar yr adeilad yn 1879, ym mhen gorllewinol y capel, ar gost o £550 a chafwyd mwy o waith atgyweirio yn 1896 a gostiodd £160. Roedd yr addolwyr yn mynychu Capel y Bedyddwyr ym Mhontlyfni yn y cyfnod hwn[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 50-63