Ffordd Osgoi Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:54, 18 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ffordd Osgoi Pen-y-groes yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Caerdydd a de Cymru'n gyffredinol fel nad oedd angen i deithwyr drafeilio trwy bentrefi Llanllyfni, Pen-y-groes a'r Groeslon gyda'r strydoedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am Nasareth hyd at gylchfan newydd a wnaed ger Tafarn y Goat ym mhentref Llanwnda. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â [[Lôn Eifion], sef hen drac y rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen, er bod angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a Phont-y-crychddwr, a'r lôn o Waith Llechi Inigo Jones i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.

Ar yr un pryd, lledwyd y ffordd rhwng drofa Nasareth a phentref Pant-glas fel ei bod o'r un safon a'r ffordd osgoi newydd.

Yn 2022, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gorllewinol Ffordd Osgoi Caernarfon wrth gylchfan Tafarn y Goat, Llanwnda. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref Pant-glas wedi ei gwella'n sylweddol iawn.