Ellis W. Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:58, 10 Hydref 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Ellis William Davies (1871 – 1939]). Yn ddiweddarach bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod byr. Ym 1906 fe ddilynodd John Bryn Roberts fel aelod seneddol dros etholaeth Eifion, sef yr etholaeth yr oedd Uwchgwyrfai yn rhan ohoni ar y pryd.

Ganed ef yng Ngerlan, Bethesda, yn fab i David Davies, swyddog yn y chwarel. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lerpwl, a bu'n gweithio fel clerc yn Wrecsam a Sheffield cyn dod yn gyfreithiwr yn 1899. Agorodd swyddfa cyfreithiwr yng Nghaernarfon lle bu'n byw am y gweddill o'i fywyd. Mae'r cwmni a sefydlodd, Ellis-Davies, yn parhau hyd heddiw.

Daeth yn Aelod Seneddol yn 1906, pan ymddeolodd John Bryn Roberts, oedd yn dal sedd Eifion ar y pryd ar ei benodiad yn farnwr. Etholwyd Davies yn ddiwrthwynebiad, a daliodd y sedd hyd 1918. Roedd yn feirniadol o lywodraeth Lloyd George yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, can ei hystyried yn rhy ryfelgar. Collodd etholiad 1918, ond dychwelodd i'r Senedd fel Aelod Seneddol tros etholaeth Dinbych ym 1923. Ymddiswyddodd oherwydd afiechyd ym 1929. Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1936, ond gadawodd y blaid honno ym 1939 oherwydd ei pholisi tramor. Cefnogai Davies bolisi Neville Chamberlain o geisio sicrhau heddwch trwy drafodaeth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Ellis Davies, [1], cyrchwyd 12.10.2021