John Bryn Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:32, 10 Hydref 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethau fel aelod seneddol a gynrychiolodd Uwchgwyrfai oedd John Bryn Roberts (8 Ionawr 184314 Ebrill 1931).

Roedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar ystad y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.

Addysgwyd ef gartref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921.

Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr. Fe'i dilynwyd gan Ellis W. Davies.

Ystyrid ef yn elyniaethus i David Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer.[1]

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Jack Eaton Judge John Bryn Roberts (Caerdydd, 1989); Erthygl Wicipedia am John Bryn Roberts, [1], cyrchwyd 12.10.2021