Capel Moreia (A), Llanllyfni
Sefydlwyd achos yr Annibynwyr yn Llanllyfni am y tro cyntaf ym 1870 gan ychydig o aelodau Capel Soar (A), Pen-y-groes. Cafwyd cymorth gan Y Parch. William Ambrose o Borthmadog wrth ei sefydlu,[1] ac roedd gan yr aelodau cyntaf o’r Annibynwyr gytundeb i ddefnyddio Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni, a oedd erbyn hynny, wedi gwanhau'n sylweddol o ran aelodaeth, ar yr amod bod y ddau gorff yn cyd-addoli pob rhyw fis neu ddau. Cyflwynwyd y bregeth gyntaf 12fed o Chwefror 1868 gan y Parch. John Davies, Nasareth.
Yn 1870 penderfynodd yr Annibynwyr adeiladu eu capel eu hunain yn Llanllyfni ac agorwyd Capel Moreia yn swyddogol ym 1871.[2]
Ar ôl cau a dymchwel adeilad Capel Salem, sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a safai bron gyferbyn â Moreia, fe symudodd yr eglwys honno i Moriah, gan ei ail-enwi'n Salem. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r achos hwnnw wedi cau a'r adeilad yn dirywio o ran ei gyflwr.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma