Ysgol Ynys-yr-arch
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.
Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] Fe'i codwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch. Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd o wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlchderwin yn gallu cyrraedd Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim. Yr adeiladydd oedd saer maen o ardal Capel Uchaf. William Williams.
Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd eu hangen ar gyfer yr ysgol gan fod angen eu llifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael llifio'r coed ym melin lifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ac, yn ogystal, yn cyfrif tuag at y grant oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyfrin Gyngor (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.
Rhaid holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at gostau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.
Yr athro cyntaf yn yr ysgol oedd un Mr Williams o ardal Nefyn, ac fe'i ddilynwyd gan John Powell o ardal Y Bontnewydd. Aeth John Powell yno'n syth o'r coleg, ac yn athro neilltuol o gydwybodol, gydag ysgrifen gain a phwyslais ar foesau a chrefydd yn ogystal â phynciau arferol yn rhan o'r hyn a ddysgai i'r plant. Fo oedd yr unig athro; yr oedd rhwng 80 a 100 o blant yn mynychu'r ysgol, ac arferai roi dyletswydd ar un o'r disgyblion hynaf i ddysgu'r rhai lleiaf. Ceiniog yr wythnos oedd y tâl, ynghyd â dimai (sef hanner ceiniog yn yr hen bres) am inc a chwe cheiniog y chwarter at gost tanwydd; ac ychwanegwyd at incwm yr ysgol trwy godi treth o geiniog yn y bunt ar drigolion y gymdogaeth.
Bu John Powell yn athro am amser hir, ond wedi iddo farw, cymerwyd yr ysgol drosodd gan y Cyngor Sir ym 1908, pan helaethwyd yr adeilad, trwy ychwanegu dau ystafell ymolchi a thoiledau, a rhannu'r ystafell ddosbarth fawr yn dair trwy godi paredau symudol o bren a gwydr. Y tu allan ychwanegwyd dwy sied lle gallai'r plant chwarae pan fyddai hi'n dywydd drwg.[3]
Gadawodd Owen Roger Owen, Graeanog, ddisgrifiad ardderchog o'r chwaraeon yr arferai plant Ysgol Ynys-yr-arch eu chwarae pan oedd o'n blentyn:
"Byddai chwaraeon y plant yn newid gyda’r tymhorau. Byddem yn ‘sbondio gyda botymau, ac os byddid wedi colli’r cwbl, tynnem rai oddi ar ai ein dillad. Byddem yn neidio’r afon, yn chwarae cylch — ugeiniau o gylchau yn gweu trwy’i gilydd— ac yn hela llwynog — un neu ddau o’r plant yn llwynog a’r gweddill yn gŵn. Amser cnau colbio, byddem yn torri twll trwy’r gneuen a rhoi llinyn drwyddo a thorri twll bach yn y ddaear a rhoi’r llinyn a’r gneuen ynddo a cheisio ei thorri ag un arall. Cedwid cyfrif manwl pa faint fyddai’r gneuen wedi’i dorri. Chwarae mulod — neidio dros gefnau’n gilydd. Yn y gaeaf, sglefrio. Roedd digon o hen byllau mawn yng nghors Ynys-yr- arch, a byddai yno le campus i sglefrio. Byddem yn methu gweld amser cinio n dod yn ddigon buan pan fyddai rhywun yn dweud fod Llyn Mawr yn dal yn ddiogel i sglefrio arno. Ni welais ffwtbol ond unwaith tra bûm yno, a honno gan Huw Roberts, Ffridd Dderwig, Garn. Hogyn annwyl, caredig oedd Huw. Rhannai ei damaid gyda chwi, ond yr oedd chwarae triwant wedi mynd i’w waed. Methwyd ei drin yn ysgol y Garn a danfonwyd ef i Ynys-yr-arch. Rhoddodd ei rieni ferlyn iddo a ffwtbol er ceisio ei gael i ddilyn yr ysgol. Rhoddai’r athrawon ffafr iddo i wneud rhyw fân swyddi yn yr ysgol — rhannu’r llyfrau i’r plant ac yn y blaen, ond nid oedd dim yn tycio — yn ôl i chwarae triwant yr âi Huw. Gofid yw meddwl iddo golli ei fywyd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.”[4]
Mae'r diweddar O. Roger Owen, mab yr Owen Roger Owen uchod, wedi gadael darlun wych o fywyd yr ysgol yn negawd cyntaf y 20g. - fe adawodd yr ysgol am Ysgol Ganol Pen-y-groes ym 1912:
"
Er iddi gau ers blynyddoedd, mae'r adeilad yn dal i sefyll, ac yn ddiweddar bu'n darparu llety i ymwelwyr i'r ardal.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma