Ysgol Eglwys Clynnog Fawr
Ysgol Eglwys Clynnog
Roedd ysgol yng Nghapel Beuno (Eglwys y Bedd), Clynnog Fawr ym 1811. Erbyn 1814 roedd yn cael ei chynnal yn yr Eglwys gan fod Capel Beuno wedi dadfeilio.[1]
Hugh Owen o Sir Fôn oedd yr athro ychydig cyn cyfnod Eben Fardd yno. Ysgol ddyddiol ydoedd o hyd “dan nawdd yr eglwys, ond un bell o fod yn effeithiol” [2] Nifer y plant oedd 24 pan gychwynnodd Eben Fardd ar ei waith ar Fedi 10, 1827.
Athro egwyddorol oedd Eben Fardd fel y gwelir yng ngweddill yr hanes hwn, gan ddechrau â’r dyfyniad hwn o’i ddyddiadur:[3] 1838 Mai 31 ... Galwodd y Parch. Mr Williams, Fron-deg i fy ngweled yn yr ysgol, a Mr. Hughes a boneddwr ieuanc gydag ef. Ar ôl te daeth Miss Marrow a’i newyddiadur i mi i’w weled, a dywedai ei bod yn gweled bai arnaf am nad ydwyf yn dysgu y plant yn yr ysgol i siarad Saesoneg. Mae hyn yn nesaf i amhosibl mewn ysgol bentrefol wledig, lle nad ydyw y plant yn dilyn hanner eu hamser, a phan wedi myned allan o’r ysgol, na chlywant byth sill o Saesoneg yn un man.”
Yn ystod y gaeaf 1842 a’r un flaenorol bu ei ysgol yn y bwthyn a gododd yng nghefn ei dŷ yn 1841.[4]
Ym 1843 dywedir yn fersiwn Gymraeg ei ddyddiadur: “Tori yr ysgol i fyny am byth yn Eglwys y Bedd, y cyflog gan yr offeiriad a roddid i mi yn St. Beuno yn cael ei dynu yn ôl. Cadw ysgol yn fy nhŷ fy hun ran o’r flwyddyn hon.” Yr oedd erbyn hynny wedi ymaelodi â’r Methodistiaid ac yn ystod y flwyddyn cafodd ei ethol yn flaenor yn Seion, Gurn Goch. Symudodd yr ysgol hon i Gapel Ebenezer, ‘Y Capel Newydd’ ar 26 Mai 1845.
Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr
Tyfodd mudiad, Cymdeithas Ysgolion Cenedlaethol, yn ystod y 1840au i wella trefn ar addysg a ddarparwyd gan yr eglwysi Anglicanaidd, a chryfhaodd ei dylanwad ar ôl Brad y Llyfrau Gleision (1847). Roedd modd cael grantiau gan y Gymdeithas a'r llywodraeth at godi ysgolion newydd.
Ym 1849 cafodd gynnig bod yn feistr Ysgol genedlaethol newydd yng Nghlynnog ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys. Gwrthododd. Cymerwyd diddordeb yn ei ysgol ef gan y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn 1850 rhoes Cyfarfod Misol Arfon £15 y flwyddyn iddo, a chodwyd y swm i £30 yn ddiweddarach. Yr oedd i ddysgu plant aelodau Methodistaidd am ddim, a hefyd ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Agorwyd yr “Ysgol Frytanaidd newydd” yn y Capel ar Hydref 21 1850. Yr oedd dros 100 yn yr ysgol (ond yn y fersiwn Gymraeg nodir dros 120).
Codwyd adeilad newydd ar ei chyfer erbyn 1863, yn cynnwys ysgoldy yn ogystal â thŷ i’r prifathro. Ond bu farw Eben Fardd yn Chwefror ychydig fisoedd cyn yr agoriad swyddogol. Yr Ysgoldy hwn yw ystafell ymgynnull Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Cyfeiriadau
- ↑ E.G. Millward, Golygydd, Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, (Caerdydd, 1968), t.194.
- ↑ William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1. Dosbarth Clynnog, (Caernarfon, 1910), t. 75.
- ↑ Y fersiwn Gymraeg o'r Dyddiadur a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd.
- ↑ Y fersiwn Cymraeg o'r Dyddiadur a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd. (Credir mai Cefn oedd y bwthyn hwn). Gweler hefyd tud. xix Rhagymadrodd y Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Gol. E.G. Millward).