Chwarel Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:56, 1 Ebrill 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Chwarel Goch yn hen chwarel lechi ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Cynhyrchai lechi glas golau atyniadol, ond wrth cael eu heffeithio gan y tywydd, byddent yn troi'n lliw rhwd, gan eu gwneud yn annefnyddiol ond mewn amgylchiadau arbennig lle deisyfid effaith amrwd a gwledig ar adeilad. Er bod ychydig o dystiolaeth fod y chwarel wedi dechrau trwy i bobl leol weithio ar eu liwt eu hunain yn y 18g., cychwynnodd yr ymdrech gyntaf (ar olaf) i chwarelu yno ar sail busnes sylweddol tua 1860 pan gafwyd caniatâd gan y perchnogion, sef Ystâd Cwellyn, i gloddio yno. Erbyn 1865, roedd cynhyrchu wedi dechrau gyda 88 tunnel yn cael eu hallforio o harbwr Caernarfon. Sefydlwyd cwmni o'r enw Castell Cidwm Quellyn Slate Quarry Co. yr un flwyddyn. Roedd y cwmni hwn yn gyfrifol am Chwarel Cwellyn hefyd, ond ym 1868 gwahanwyd y dwy chwarel wrth i'r rheolwr, John Lloyd, adeiladydd a phensaer o Gaernarfon benderfynu nad oedd llechi Chwarel Goch yn well nag eiddo Chwarel Goch. Sefydlodd cyd-berchennog tir y chwarel, y Parch. Phillip Williams, un o deulu Cwellyn, cwmni newydd i fynd â chwarelu yn ei flaen, chynigwyd cyfranddaliadau.

Ym 1871 roedd 18 o ddynion yn gweithio yn y chwarel ond ym 1878, ar adeg o drai yn y diwydiant, aeth y cwmni i'r wal a dyna ddiwedd y chwarel. Ym 1945, fodd bynnag, gwerthodd etifedd Cwellyn (Stephen G. Williams o Daunton ym Ngwlad yr Haf) i W. Ellis Evans a hwnnw'n gosod tipiau'r chwarel i nifer o ymgymerwyr iddynt adenill llechi cochaidd "rustic" a oedd ar y pryd yn ffasiynol.[1]

Yr oedd yna dwll chwarel a oedd yn llawn dŵr erbyn i'r map ordnans gael ei gyhoeddi ym 1888,[2] ond fe'i llenwyd ers blynyoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r hyn sydd ar gael yn Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cem Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.25-8
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf