Moel Rudd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:13, 31 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae 'Moel Rudd yn gopa ar ystlys ddeheuol Mynydd Mawr sydd yn edrych dros Lyn Cwellyn. Saif i'r gogledd o Fwlch-y-moch. Mae'r copa yn 573 metr uwchben lefel y môr. Mae hefyd yn sefyll ar ben dwyreiniol Craig-y-bera. Ychydig o dramwyo sydd drosti a dyma, efallai, un o leoedd mwyaf diarffordd yn holl ucheldir Uwchgwyrfai.

Ar ei llethr ogleddol, sef ar ochr Cwm Planwydd, mae olion hen gorlannau defaid a chwt bugail.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Coflein