Moel Rudd
Mae 'Moel Rudd yn gopa ar ystlys ddeheuol Mynydd Mawr sydd yn edrych dros Lyn Cwellyn. Saif i'r gogledd o Fwlch-y-moch. Ar ei llethr ogleddol, sef ar ochr Cwm Planwydd, mae olion hen gorlannau defaid a chwt bugail.[1] Mae hefyd yn sefyll ar ben dwyreiniol Craig-y-bera. Ychydig o dramwyo sydd drosti a dyma, efallai, un o leoedd mwyaf diarffordd yn holl ucheldir Uwchgwyrfai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Coflein