Neuadd a Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:24, 26 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Neuadd y Farchnad ym mhentref Pen-y-groes lle saif Neuadd Goffa Pen-y-groes yn awr, honno wedi ei chodi yn ystod y 1920au.[1] Mae'r darn trionglog o dir o flaen y Neuadd Goffa yn dal i gael ei alw'n Sgwâr y Farchnad. Erbyn hyn, gyda'r orsaf reilffordd wedi diflannu a chanol y pentref wedi encilio i'r Stryd Fawr, nid oes ond siop sglodion a thafarn Yr Afr ger yr hen sgwâr brysur, lle gynt yr oedd nifer o siopau, yn cynnwys fferyllydd, siop esgidiau Tommy Herbert a siop emwaith ac oriaduron Gwilym Thomas.[2], a hynny o fewn cof rhai nad ydynt yn hen. Ar gyfnod ychydig yn gynharach, yr oedd siop nwyddau haearn, Market Stores yn gyrchfan pob math ar nwyddau o feisiclau i lampau. Caewyd honno ym 1928.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, 20-20 [1], cyrchwyd 26.3.2021
  2. Gwybodaeth ac atgofion personol
  3. London Gazette, 18 Medi 1926, t.6147