Market Stores, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Siop yn Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes oedd y Market Stores. Bu'n brysur iawn tua dechrau'r ganrif ddiwethaf mewn man prysur nid nepell o orsaf y pentref. Owen Robert Williams oedd y perchennog, a gellir gweld o ffotograff o'r siop a dynnwyd tua 1925, ac a ymddangosodd yn y llyfr lluniau o Ddyffryn Nantlle, ei fod yn gwerthu pob math o nwyddau haearn ac offer angenrheidiol.[1]. Er gwaethaf prysurdeb ymddangosiadol y siop, mi fethodd y busnes ym 1927-8, pan aeth O.R. Williams yn fethdalwr.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), delwedd 3
  2. London Gazette, 18 Medi 1928, t.6147