Henry Kennedy
Henry Kennedy (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno.[1] Er bod ganddo dau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â mwyaf helaeth o'r gwaith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Sir Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol.
Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, ei brif waith oedd codi eglwys newydd ar gyfer pentref Llandwrog yn unol â dymuniadau Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, tua 1859-61.[2] Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym Mharc Glynllifon fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,[3] ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.[4] Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau Ysgol Llandwrog, yr ysgol eglwys lleol.[5] Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.[6]
Defnyddiodd Newborough fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;[7] ac yr oedd ei fab, Frederick G. Wynn, yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol am ailadeiladu rhan o wal ddwyreiniol Plas Glynllifon a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef, mor ddiweddar â 1889.[8]
Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y SIr dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.[9]
- ↑ Erthygl Wicipedia am Kennedy, [1], cyrchwyd 23.3.2021
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/14261
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/872
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/871
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/22297 et seq.
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2A/1579
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/24256