Y Garn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:21, 16 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Garn o Lyn y Gader

Y Garn yw copa mwyaf dwyreiniol Crib Nantlle ac mae ffin Uwchgwyrfai yn rhedeg drosto. 2080 troedfedd, neu 633 metr, yw ei uchder. O'r copa gellir gweld Dyffryn Nantlle ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref Rhyd-ddu, llethrau'r Wyddfa a Llyn y Gader islaw. Mae mynyddwyr yn ei gynnwys yn rhestr mynyddoedd Nuttall.

Mae dwy garnedd, neu bentyrrau o gerrig, ger y copa. Mae un yn 42 troedfedd ar draws ac 8 troedfedd o uchder; mae'r llall rhyw ddeng llath ar hugain i'r de-orllewin, ac mae ddwy droedfedd yn llai o ran lled, a dim ond 6 troedfedd o uchder. Dichon bod y ddwy wedi cael eu chwalu rywbryd yn y gorffennol. Mae llawer iawn o gerrig rhydd ar draws y tir gwastad ger y copa, a gall y rheiny fod yn olion carneddau eraill.[1]

Ni ddylid cymysgu'r mynydd hwn gyda'r Garn, mynydd sy'n rhan o'r Glyderau.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.212