Ffridd Baladeulyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:27, 30 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae gwreiddiau fferm Ffridd Baladeulyn, ar gyrion pentref Nantlle, ac a elwir heddiw fel arfer yn "Ffridd", yn mynd yn ôl ymhell. Ceir sôn am Ffridd Baladeulyn ymysg llawer o ffriddoedd a threfgorddi ar draws Gwynedd, rhan o etifeddiaeth coron Lloegr wedi goresgyniad Llywelyn ein Llyw Olaf, mewn dogfen o 1614.[1] heb os, dyma'r ffriddoedd oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn cyn 1284.

Bu'n perthyn i hen Ystad y Faenol cyn i'r chwareli llechi gael eu sefydlu yn Nyffryn Nantlle. Mae'r enw Baladeulyn yn disgrifio darn gwastad o dir rhwng dau lyn, ac roedd yno ddau lyn ar un adeg cyn i'r llyn isaf o'r ddau gael ei sychu a newid cwrs yr Afon Llyfni o ganlyniad i ddatblygu Chwarel Dorothea a chwareli eraill cyfagos. Erbyn hyn, fel y dywed R. Williams Parry yn ei gerdd "Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw", "Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy".

Mae'r fferm yn ymestyn hyd at waelod Craig Cwm Silyn a llawere o'r tir yn ffridd agored hyd heddiw. Yn draddodiadol, rhannwyd Ffridd Baladeulyn yn bedair rhan gan Ystad y faenol: un darn yn hanner, un yn chwarter a'r ddwy ran arall yn chwarter yr un, wedi'u gosod i denantiaid gwahanol. Yn fwy na hynny, arferid rhoi prydlesi ar y pedwar darn, a'r prydleseion wedyn yn gosod y tir i denantiaid eraill. Felly yr oedd hi yng nghanol y ddeunawfed ganrif, pan osodwyd un o'r gwahanol brydleseion ddarn wythfed ran i Robert Thomas.[2]

Y Brodyr Roberts

Yng nghanol y ddeunawfed ganrif bu'r Ffridd yn fagwrfa i ddau a ddaeth yn weinidogion amlwg iawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, sef John Roberts (1753-1834) a Robert Roberts (1762-1802), meibion i'r Robert Thomas uchod a'i wraig Catherine Jones. Dywedir mai ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle, y ganed John ar 8 Awst 1753, ond â fferm Y Ffridd y caiff ei gysylltu. Wedi cyfnod o weithio yn Chwarel Cilgwyn, llwyddodd i gael tipyn o addysg ac yna aeth ati i gadw ysgolion ei hun mewn gwahanol fannau, yn arbennig Llanllyfni, ac am gyfnod adwaenid ef fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yn 27 oed a phriododd â gwraig weddw, Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, Meirionnydd. Ac yn Llangwm y bu'n byw o 1809 tan ei farwolaeth ar 3 Tachwedd 1834, yn 82 oed, ac fel John Roberts Llangwm y mae'n fwyaf adnabyddus. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ddynion a gafodd eu hordeinio'n weinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1811, pan ymwahanodd y mudiad yn swyddogol oddi wrth yr Eglwys Wladol a dod yn enwad annibynnol. Yn wahanol iawn i'w frawd iau, Robert, roedd yn ddyn byr a chadarn o gorffolaeth a chyfansoddiad. Er nad ystyrid ef yn bregethwr mor danbaid â Robert, roedd galw mawr am ei wasanaeth a bu'n bregethwr cyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru am flynyddoedd. Mab iddo oedd Michael Roberts, a ddaeth hefyd yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan ymsefydlu yn eglwys Penmount, Pwllheli. Fodd bynnag, daeth diwedd trist i hanes Michael Roberts, gan iddo ddioddef o salwch meddwl a dryswch difrifol yn ddiweddarach yn ei oes.

Roedd Robert Roberts, a aned 12 Medi 1762, bron i ddegawd yn iau na John, ac fel ei frawd bu yntau'n gweithio am gyfnod yn fachgen yn Chwarel Cilgwyn. Yn ddiweddarach aeth i weini ar ffermydd yn Eifionydd, a thra oedd yn was yn Coed-cae-du, dioddefodd o glefyd grydcymalau enbyd a danseiliodd ei iechyd a'i adael yn ddyn llesg a chrwca am weddill ei oes. Ni allai barhau'n was fferm ac wedi cael cyfnod byr o ysgol ym Mrynengan, dan Evan Richardson mae'n fwy na thebyg, dechreuodd bregethu. Datblygodd i fod yn un o bregethwyr mwyaf tanbaid a nerthol ei gyfnod, er gwaethaf ei anableddau, ac fe'i gelwid gan amryw "y seraff tanllyd". Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr achos yng Nhapel Ucha, Clynnog, gan fyw yn y tŷ capel a oedd yn gysylltiedig â'r capel am weddill ei oes fer. Bu farw 28 Tachwedd 1802. (Gweler yr erthygl helaethach ar Robert Roberts yn Cof y Cwmwd.) [3]

Pedair rhan Y Ffridd

Fel y dywedwyd uchod, rhennid yr eiddo'n bedwar darn anghyfartal, er i'r ystâd ystyried yr eiddo'n un. Yn yr arolwg a wnaed tua 1800, nodwyd bod tri darn wedi newid dwylo ar ôl y rhannu rhywbryd efallai yn y 1760au: y rhai gwreiddiol oedd wedi derbyn prydles oedd

  • William Williams (hanner yr eiddo) oedd wedi aseinio'r brydles gyda chydsyniad asiant yr ystâd i Alice Prees o Ddrws-y-coed ac yr oedd honno wedi ei osod i Edward Jones;
  • William Edward (chwarter yr eiddo), a oedd eto wedi gwerthu'r brydles i rywun arall, sef John Griffith, a hynny am £20, oedd yn ffarmio ei ddarn o;
  • Evan Griffith, a oedd wedi gosod ei ran o i David Prichard;
  • Robert Thomas (y sonnir amdano uchod), oedd wedi marw erbyn 1800, ond roedd ei weddw Catherine Jones yn dal i ffarmio'r darn gydag un o'i meibion.

Mae'n amlwg o'r ffordd y mae beudai a hyd yn oed tai'r pedwar tenant ar, neu yn ffinio ar, rannau o'r darnau eraill. Hyd yn oed mor ddiweddar â chyfnod y Map Degwm ryw ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, tua 1840, ystyrid yr eiddo'n un mewn egwyddor: rhestrir holl diroedd y pedwar darn efo'i gilydd, a nodir y tenantiaid fel tenantiaid ar y cyd: Owen Davies, William Ellis, Michael Owen a Richard Jones. Bu farw Owen Davies a Richard Jones ym 1840. Roedd y naill â nwyddau ac ati gwerth £77.11.0c a'r llall, £62.4.6c., a'r ddau'n cael eu disgrifio fel ffermwyr - h.y., nid oeddynt yn ffarmio er mwyn cynyddu eu hincwm fel gweithwyr chwarel neu rywbeth o'r fath. [4]. Roedd Owen Davies hefyd yn fab i'r David Prichard oedd yn denant yr wythfed ran o'r Ffridd yn ôl ym 1800 a'i wraig Gwen Owen neu Prichard, a fu farw ym 1818.[5]

759 erw oedd yr eiddo i gyd ym 1840:dolydd a thir pori oedd y cwbl heblaw am ran o Gae'r llain yr oedd rhan ohono'n cael ei aredig - a dim ond 3 erw oedd Cae'r llain i gyd. Roedd y ffridd agored, a elwid yn Ffridd Arw, yn ymestyn dros 443 erw. Cyfrifid rhannau o Lyn Nantlle Isaf, Llyn Nantlle Uchaf a Llynnoedd Cwm Silyn yn rhan o'r eiddo - tua 36 erw i gyd. Erbyn 1840, fodd bynnag, er mai un tŷ yn unig a'r buarthau sydd yn cael eu rhestru, a hynny ar safle bresennol y ffermdy, rhaid amau fod y tenantiaid yn ffermio ar wahân mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Mae Cyfrifiad y flwyddyn wedyn yn dangos fod pedwar tŷ o hyd yn cael eu rhestru o dan Ffridd Baladeulyn. Roedd William Ellis yn hen ddyn 70 oed, gyda'i fab Griffith, 30 oed yn byw gydag ef, ynghyd â gwas a dwy forwyn. Yno hefyd oedd Michael Owens oedd eto wedi ei enwi yn y ddogfen pennu degwm; 45 oed oedd o, gyda gwraig a saith o blant yn cynnwys dau set o efeilliaid. Yr oedd Mary Jones (gweddw Richard Jones) yn parhau mewn darn arall o'r Ffridd; roedd hithau'n 45 oed ac efo 7 o blant. Unig denant y Ffridd nad oedd yn ffarmwr oedd dyn o'r enw Hugh Roberts, 65 oed, oedd yn chwarelwr.

Ym 1851, deng mlynedd yn ddiweddarach, roedd y Ffridd yn dal i fod yn gartref i bedwar teulu. Yr oedd Michael Owens wedi troi at y chwarel am ei waith, ac roedd Catherine Williams yn byw mewn rhan arall ac yn cael ei nodi fel tlotyn ("pauper"). Dim ond dau o'r pedwar teulu'r Ffridd oedd yn dal i ffermio - John Jones yn ffermio 225 erw a Griffith Williams, 40 oed, yn ffermio 65 erw - mae'n bur debyg mai mab y William Ellis uchod oedd Griffith Williams.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Yr Archifdy Gwladol, C-66/2030 rhif 15, haen 10.
  2. Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/4057, argraffwyd yn R.O. Roberts, "Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), tt.52-32
  3. Gweler Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein am fywgraffiadau ar John, Robert a Michael Roberts; hefyd Robert Roberts - Yr Angel o Glynnog, Emyr Roberts ac E. Wyn James (Llyfrgell Efengylaidd Cymru 1976).
  4. LLGC Ewyllysiau Bangor, 1840/1235/W ac I; 1840/W ac I
  5. LLGC Ewyllysiau Bangor, 1818/108 B ac I