Abaty Aberconwy
Abaty'n perthyn i Urdd y Sistersiaid (y Brodyr Llwydion) oedd Abaty Aberconwy. Carfan o fynaich o abaty Sistersaidd Ystrad Fflur wnaeth ei sefydlu'n wreiddiol. Teithiodd y rheini i'r gogledd i Wynedd gan sefydlu abaty bychan i ddechrau yn Rhedynog Felen ym mhlwyf Llanwnda ym 1186, cyn symud i Aberconwy rhyw bum mlynedd yn ddiweddarach. Datblygodd yr abaty i fod y pwysicaf a'r cyfoethocaf o abatai Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn bennaf oherwydd iddo gael ei noddi'n eithriadol hael gan Lywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) (c.1173-1240). Rhoddodd y tywysog grymus hwnnw diroedd ar hyd a lled Gogledd Cymru i Abaty Aberconwy, ac roedd rhai o'r tiroedd hynny yng nghwmwd Uwchgwyrfai ac eraill yn Eifionydd, er eu bod tua deugain milltir o'r abaty. I Abaty Aberconwy yr ymneilltuodd Llywelyn Fawr yn ystod misoedd olaf ei oes ac yno y claddwyd ef ym 1240, ynghyd â'i fab Dafydd chwe blynedd yn ddiweddarach. Safai'r abaty gwreiddiol yng nghanol tref Conwy, ond yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 a'r goncwest Seisnig, gorfododd Edward I i'r mynaich symud i safle newydd ym Maenan, tua hanner ffordd i fyny Dyffryn Conwy rhwng Conwy a Llanrwst, gan fod arno eisiau'r safle yng Nghonwy ar gyfer ei fwrdeisdref newydd. Defnyddiwyd eglwys yr abaty yn Aberconwy fel eglwys y fwrdeisdref newydd ac mae rhannau ohoni'n parhau o fewn adeiladwaith yr eglwys bresennol yng nghanol tref Conwy. Nid oes fawr ddim o olion yr abaty ym Maenan i'w gweld ac mae gwesty Abaty Maenan wedi ei godi ar y safle ers blynyddoedd bellach.
Rhoddwyd trefgordd Nancall yn rhannau uchaf Uwchgwyrfai, lle mae plwyfi Clynnog-fawr a Llanfihangel y Pennant yn ffinio â'i gilydd, i Abaty Aberconwy. Safai trefgordd Nancall ar lan ddwyreiniol Afon Dwyfach ac ymestynnai o'r afon i gopa Mynydd Craig Goch, a elwid Llwytmor yn wreiddiol. Mae o fewn plwyf Clynnog ac felly'n rhan o Uwchgwyrfai i ddibenion gweinyddol, er fod yr ardal yn cael ei hystyried yn fwy o ran o Eifionydd mewn gwirionedd. Afon Faig, a lifai o'r mynydd-dir gan ymuno ag Afon Dwyfach yn Dafarn Faig, oedd ffin ddwyreiniol plwyf Clynnog am ganrifoedd, nes ei disodli gan wal derfyn a godwyd ym 1812 pan amgaewyd y mynydd.
Rhoddwyd Nancall i Abaty Aberconwy trwy siarter gan Lywelyn Fawr ym 1201, pan oedd yn cadarnhau ei afael dros Wynedd gyfan. Bu'n eiddo wedyn i'r abaty am dros dair canrif, fel maenor (grange), lle roedd gwŷr caeth (taeogion) yn bennaf yn gweithio'r tir, gyda'r abaty'n derbyn yr elw o'r cynnyrch. Roedd y drefgordd yn llai na 1,000 o erwau i gyd ac roedd llawer ohoni'n fynydd-dir diffaith. Ond ar y tir gorau ger glan yr afon roedd gan y mynaich un gafael (holding) gwerth £2 y flwyddyn, a oedd yn cynnwys tua 120 erw o dir âr.
Ychydig o gofnodion yn ymwneud â Nancall sydd wedi goroesi. Fodd bynnag, ceir cofnod o lys y siryf a gynhaliwyd yng Nghlynnog Fawr ym 1311, lle cyhuddwyd Abad Aberconwy o dderbyn gŵr taeog o'r enw Anian Ddu, a oedd wedi ffoi'n anghyfreithlon o rywle arall, ynghyd â'i blant, i'r faenor yn Nancall a hynny'n groes i'r gyfraith. Roedd taeogion wedi eu clymu, fel caethweision i raddau helaeth, wrth y faenor y perthynent iddi ac roedd yn rhaid iddynt gael caniatâd arglwydd y faenor i symud i rywle arall.
Daeth cysylltiad Abaty Aberconwy â Nancall i ben ar 31 Awst 1517 pan roddodd Geoffrey Kyffin, Abad Aberconwy (a elwid hefyd yr "Abad Coch" oherwydd lliw ei wallt), drefgordd Nancall ar brydles o 99 mlynedd i John ap Ednyfed, a drigai mae'n bosib yn nhrefgordd gyffiniol Penyfed. Lai nag ugain mlynedd wedi hynny diddymwyd Abaty Aberconwy (pan ddiddymwyd holl fynachlogydd, abatai, lleiandai a phriordai Cymru a Lloegr rhwng tua 1536-1540 dan Harri'r VIII) a daeth ei thiroedd yn eiddo i Goron Lloegr. [1]
Roedd gan Abaty Aberconwy diroedd sylweddol yn Eifionydd hefyd. Trwy'r un siarter gan Lywelyn Fawr yn 1201 ag a roddodd Nancall iddo, derbyniodd yr abaty diroedd hefyd yn ardal Beddgelert. Ond ei brif ddaliad yn Eifionydd oedd trefgordd Ffriwlwyd (Y Ffridd Lwyd), rhwng Afon Wen yn y gorllewin ac Afon Dwyfach yn y Dwyrain. Bu'r drefgordd hon yn cael ei dal fel maenor gan Abaty Aberconwy am ganrif a hanner cyn iddi ddod i feddiant Coron Lloegr ym 1350 trwy drefniant cyfnewid tiroedd. [2]