William Hughes, Hyfrydle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:27, 6 Ebrill 2020 gan Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Parch. William Hughes, (1818-1879), yn ŵyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Roedd o'n blentyn darllengar yn ôl pob sôn ac wedi darllen y Beibl sawl gwaith drosodd cyn ei fod yn cyrraedd ei 20 oed. Chafodd o fawr o ysgol heblaw am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, ac yn 18 oed cafodd waith fel clerc yn chwarel Cloddfa'r Lôn, swydd a ddaliodd am 41 o flynyddoedd. Codwyd yn flaenor yn Llanllyfni ym 1842 ac fe ddechreuodd bregethu yn Nhal-y-sarn ym 1844. Fo oedd Ymholydd yr Ysgolion Sul am bron i ugain mlynedd, 1852-70. Ym 1866, symudodd i achos newydd Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn er mwyn cefnogi'r achos yna.

Roedd o'n cael ei adnabod fel dyn difrifol, pwyllog a phenderfynol. Nid oedd y gorau o weinidogion i adnabod ei aelodau'n syth, ond yn arweinydd llwyddiannus iawn fel bugail eglwys. Roedd yn brif ysgofydd yr ysgol ddyddiol a gynhelid yn y Capel Mawr, 1856-7, ac yn cefnogwr brwd i'r ysgol a sefydlid yn y pentref. Pan ffurfiwyd Bwrdd Ysgol, cafodd ei ethol arno, a fo oedd ysgrifennydd y Bwrdd hefyd. Gellir dweud, mae'n debyg, mai fo oedd prif symbylydd a hyrwyddwr addysg y pentrerf hyd ei farwolaeth.

Cyfeiriadau