John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:44, 3 Medi 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

John Roberts (1916 - 2016), a fu fyw am y rhan fwyaf o'i oes yn Y Groeslon, oedd trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1959 a 1979. Fe'i anwyd yn Lerpwl, ond oherwydd iechyd bregus ei fam bu'n byw gyda'i nain ym Mhen Llŷn hyd nes iddo fod yn 7 oed, a chyfrifai o ei hun felly'n un o Ben Llŷn. Bu'n gweithio gyda chwmni o beiriannwyr sifil yn Lerpwl, ac wedyn ym Môn ac Arfon. Ar ôl cyfnod fel gweithiwr fferm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe raddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe er mwyn a gweithio ym maes gwasanaethau ieuenctid. Bu'n gweithio i'r Urdd am ddeng mlynedd yn Llanelli a Chaernarfon cyn cael swydd fel Gweinyddwr Coleg Glynllifon. Ym 1959, cycghwynnodd ar gyfnod o 20 mlynedd fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]

Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, Yr Helygen Gam, ac yntau'n 91 oed.

Bu'n ffrind agos i'r Dr. John Gwilym Jones. Tua diwedd ei oes, bu Arthur Wyn Parry yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yn symud i gartref gofal yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed ac yn dal gyda'i gof yn fyw iawn.[2]

Ac yntau'n dathlu ei ganfed ben-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram gan Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"![3]

Cyfeiriadau

  1. John Roberts, Yr Helygen Gam, (Caernarfon, 2007), clawr ôl
  2. Gwybodaeth bersonol
  3. Daily Post, 21.7.2016 [1]