Charles Easton Spooner

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:36, 19 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Charles Easton Spooner (1818-1889) yn drydydd mab James Spooner, peiriannydd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog. Cafodd Charles Easton ei eni ym Maentwrog, gan symud cyn 1841 i Morfa Lodge, Porthmadog. Am weddill ei oes, bu'n byw yn Meddgelert ac wedyn mewn tai sylweddol ym Mhorthmadog. Cafodd ei hyfforddi fel peiriannydd sifil trwy weithio o dan Joseph Locke ac Isambard Kingdom Brunel, dau o gewri oes aur adeiladu rheilffyrdd ym Mhrydain. Cafodd ei benodi gan ei dad yn drysorydd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ym 1847 ac yn ysgrifennydd y cwmni ym 1856. Bu'n dal y swyddi hyn ac yn gweithredu hefyd fel peiriannydd hyd 1887. Yn ogystal â hyn, roedd yn gwneud gwaith arall trwy gwmni'r teulu, Spooner a'u Cwmni.

Er mai Saeson oedd teulu Spooner, ac er iddo briodi Saesnes o Firmingham, prin nad oedd yn gallu'r Gymraeg - froedd llawer o weithwyr y lein yn uniaith Gymraeg.

Ei gysylltiad ag Uwchgwyrfai yw trwy ei waith fel peiriannydd Rheilffyrdd Trac Cul Gogledd Cymru a agorodd ym 1877, gyda'r gweithdai a phencadlys yng Ngorsaf Dinas, Llanwnda.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 19.05.2020