Parc Cenedlaethol Eryri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:46, 13 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fe ffurfiwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 ac hwn yw’r parc cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu 823 milltir sgwâr neu 2,176Km sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri y pedwerydd mwyaf ym Mhrydain ar ôl y Cairngorms, Dyffrynnoedd Swydd Efrog ac Ardal y Llynoedd. Ym 1951 pan ffurfiwyd y Parc, roedd y diwydiant llechi'n dal i frwydro ymlaen er gwaethaf y cau a'r ailgyfeirio a fu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ar ôl colli llawer o'r gweithwyr yn y Rhyfel. Am y rheswm hwnnw, mae'n debyg, er bod y Parc yn uned o lethrau mwyaf gogleddol Eryri ei hun hyd at ddyffryn Dyfi yn y de, fe adawyd yr ardaloedd chwarelyddol mwyaf y tu allan i ffiniau'r Parc. Dyna'r rheswm, mae'n debyg pam fod cyn lleied o Uwchgwyrfai yn y Parc - sef dim ond y rhan honno o'r cwmwd ar ochr orllewinol Dyffryn Gwyrfai o Bont Cyrnant yn y Waunfawr hyd at bentref Rhyd-ddu ac i lawr rhan uchaf Dyffryn Nantlle hyd at ben uchaf pentref Nantlle ei hun ac o'r fan honno mewn llinell syth ar draws Cors y llyn at Gwmbran, ger Pant-glas. O'r fan honno, mae'r ffin yn dilyn y ffordd gefn nes gyrraedd Tafarn-faig ar y ffin ag Eifionydd, gan adael dim ond chwareli wedi hen gau a rhai bychain o fewn y ffiniau.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn ymdebygu i awdurdod lleol, gan fod ganddo bwerau ym meysydd cynllunio, datblygu economaidd, llwybrau a hamdden. Mae corff yr awdurdod yn anetholedig - mae'r aelodau'n cael eu penodi'n rhannol gan Lywodaeth Cymru ac yn rhannol gan yr awdurdodau lleol o fewn ei ffiniau, sydd yn pennu rhai o'u cynghorwyr etholedig i eistedd ar fwrdd yr Awdurdod.

Gresyn, ar un wedd, na ddarparwyd yr un diogelwch i gefn gwlad gweddill Uwchgwyrfai megis mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr a'r Eifl, er bod Ardal Harddwch naturiol Llŷn yn gwarchod peth o'r tir erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau