Rheilffordd Ffestiniog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:10, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Rheilffordd Ffestiniog, fel Rheilffordd Ucheldir Cymru, yn cludo llechi at y cei ym Mhorthmadog. Yn achos Rh. Ffestiniog, roedd hi wedi gwneud hyn ers 1836. Mae Cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn gwmni 'statudol' (h.y. wedi ei ffurfio yn sgîl deddf seneddol) ers 1832.

Pan ffurfiwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru gyda'r bwriad o gludo llechi a darparu gwasanaeth i ymwelwyr ym 1922, roedd y gobeithion yn uchel ond buan y sylweddolwyd nad oedd y traffig yn ddigonol i greu elw ac erbyn 1934 roedd y cwmni yn cael trafferth i gynnal unrhyw lefel o wasanaeth o gwbl. Yn annisgwyl, cymerodd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog brydles o'r lein ym mis Mehefin 1934, ond er ymdrechion y cwmni hwnnw, methiant fu'n fenter, a peidiodd y trenau arhedeg ar ol 1937. Rhoddwyd y brydles yn ôl yn ffurfiol ym 1942.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Rails in South Caernarvonshire, (Oakwood, 1989), tt.1-2, 40-5.